Americanwyr Eidalaidd
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig, ethnic minority group |
---|---|
Math | European Americans |
Mamiaith | Saesneg, eidaleg |
Label brodorol | Italoamericani |
Poblogaeth | 17,222,412 |
Crefydd | Yr eglwys gatholig rufeinig, protestaniaeth |
Rhan o | Italian diaspora |
Enw brodorol | Italoamericani |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y rhan o boblogaeth Unol Daleithiau America sydd yn disgyn o fewnfudwyr o'r Eidal yw Americanwyr Eidalaidd (Saesneg: Italian Americans, Eidaleg: italoamericani neu italo-americani, pronounced [ˌitaloameriˈkaːni]). Yn ôl y Gymdeithas Astudiaethau Eidalaidd-Americanaidd, maent yn cyfri am ryw 18 miliwn o Americanwyr, cynnydd ers 16 miliwn yn 2010, sydd yn cyfateb i 5.4 y cant o boblogaeth yr Unol Daleithiau. Lleolir y niferoedd mwyaf o Americanwyr Eidalaidd yn yr ardaloedd metropolitanaidd yn nhaleithiau'r Gogledd-ddwyrain a'r Gorllewin Canol, gyda chymunedau sylweddol mewn dinsoedd a threfi eraill ar draws y wlad.[1] Maent yn disgyn o'r rhyw 5.5 miliwn o Eidalwyr a ymfudodd i'r Unol Daleithiau rhwng dechrau'r 19g a dechrau'r 21g.
Cynnyddodd mewnfudo o'r Eidal i'r Unol Daleithiau yn sylweddol yn niwedd y 19g, ac yn y 1880au croesodd dwywaith gymaint o Eidalwyr Gefnfor yr Iwerydd nag yn yr holl hanner can mlynedd cynt.[2][3] Rhwng 1880 a 1914, ymfudodd uwch na 4 mliwn o Eidalwyr i'r Unol Daleithiau.[2][3] Daeth y niferoedd mwyaf o dde'r Eidal, a fu'n amaethyddol yn bennaf ac yn dlawd ers cannoedd o flynyddoed o ganlyniad i drethi uchel a rheolaeth gan bwerau tramor.[4][5] Ymsefydlodd y mwyafrif ohonynt yn ninasoedd ar hyd yr arfordir dwyreiniol, yn enwedig Efrog Newydd a Philadelphia. Ar y cychwyn, dynion ar ben eu hunain oeddynt a symudodd am waith, ac anfonasant daliadau yn ôl i'w teuluoedd yn y famwlad. Dychwelodd nifer o'r gweithwyr hyn yn ôl i'r Eidal. Ar droad y ganrif, daeth gwragedd a phlant hefyd ar y daith a ffynnai cymunedau Eidalaidd-Americanaidd yn y wlad newydd. Daeth mewnfudo ar raddfa eang i ben yn sydyn yn sgil cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, a gostyngodd y niferoedd blynyddol o fewnfudwyr Eidalaidd i'r miloedd (ac eithrio sbonc dros dro ym 1922). Cyfyngwyd ar fewnfudo o Dde Ewrop gan Ddeddfau Mewnfudo 1917 a 1924 a Deddf Cwota Frys 1921.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brittingham, Angela, and G. Patricia De La Cruz (2004). Ancestry: 2000 Archifwyd 2004-12-04 yn y Library of Congress Web Archives Washington, D.C.: U.S. Dept. of Commerce, Economics and Statistics Administration, U.S. Census Bureau.
- ↑ 2.0 2.1 Annual Report of the Immigration and Naturalization Service (1966 ed.). WASHINGTON, D.C: United States Department of Justice, Immigration and Naturalization Service. June 1967. pp. 55–58. https://archive.org/download/annualreportofim1966unit/annualreportofim1966unit.pdf. Adalwyd July 13, 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "Table 1: Italian Immigration To The United States By Years". Mtholyoke.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 4, 2020. Cyrchwyd October 7, 2017.
- ↑ Wepman, Dennis (2008). Immigration (yn Saesneg). Infobase Publishing. t. 171. ISBN 978-1-4381-0810-0.
- ↑ Mangione, Jerre and Ben Morreale, La Storia: Five Centuries of the Italian American Experience, Harper Perennial, 1992